Photo of Yr Annioddefol

Yr Annioddefol's Blog

  • Can Newydd i’w Lawrlwytho!

    Mae ein can newydd 'Drysu' nawr ar gael i'w lawrlwytho i ffwrdd o'n myspace. Ma hon yn replacio'r fersiwn sesiwn C2 efo un llawer gwell! Mi fyddwn ni'n perfformio'r gan yma yn Liet Lavlut yn Sweden ar y 18fed o Hydref!
  • 23/06/08 -- Yr Annioddefol yn Ennill yn Inverness -- Yr Annioddefol winning in Inverness

    Helo pawb,

    Mae'n debyg eich bod chi'n annwybodol bod Yr Annioddefol wedi bod yn Inverness, Yr Alban o nos Wener yr 20fed i Nos Sul yr 22ain yn cystadlu mewn cystadleuaeth i ieithoedd celtaidd o'r enw 'Nos-Ur'.

    Roedd yr pump ohona ni yna i perfformio'r can 'Drysu' yn Eden Court am 8:13pm ar y Nos Sadwrn. Ar ol helpu setio fynnu'r backline a'r drymiau ar gyfer i pob band arall iw ddefnyddio roedd yn deg iawn i ddeud bod pob un ohona ni'n nerfus iawn ond dal yn edrych ymlaen yn fawr i cael rhanu'r llwyfan gyda 11 fand wych arall ar y noson yna.

    Ar ol i ni chwarae ein can ni roedd pawb yn teimlo bod yr perfformiad wedi mynd yn dda ac bod ni wedi neud yr gora' oedda ni'n gallu i paratoi at rownd derfynnol yr cystadleuaeth.

    Roedd ddau fand yn cael yr siawns i fynd drwadd i rownd derfynnol yr gystadleuaeth Leit Lavlut yn Lapland  gyda un band yn ennill drwy  system o bwyntiau wedi  gwobrwyo gan 5  beirniad yn cynrychioli ardaloedd wahanol ym mhrydain ac band arall yn mynd drwadd trwy ennill yr fwya o pleidleisiau ar lein ac gyn yr gynilleidfa.

    Fe gafodd ennillwyr bleidlais yr beirniaid ei gyhoeddi yn gyntaf ac 'sdi be?.....
    DDARU NI ENNILL!!
    I know! Nyts de.

    Fydd yr band yn trio gora i hel pres o rwan tan Hydref ar gyfer trip i Lapland i cystadlu yn yr gystadleuaeth Liet Lavlut.
    Da de plantos.

    Diolch am cefnogaeth pawb hyd yn hyn ac i trefnwyr Nos-Ur am neud job mor dda yn ei flwyddyn gyntaf yn rhoid yr gystadleuaeth ar.

    Lapland AWE!!!!

    (Ben/Bass)
    ---------------------------------------------

    Hello everyone,

    It's likely that you are aware that Yr Annioddefol were in Inverness, Scotland
    from Friday 20th 'till Sunday the 22nd to compete in the minority language competition 'Nos-Ur'.

    The five of us were there to perform the song Drysu in Eden Court (a lovely place along side of St. Andrew'as Cathedral) at 8:13pm on the Saturday night having already experienced a fun flight and a good meal from Sam's Indian Cuisine opposite the Weatherspoons where we were staying the previous day. After we'd been at the theatre since 11 in the morning lending a hand setting up the backline and drum kit that everyone else would be using it was fair to say that everyone was feeling a bit nervous but also very excited to be sharing the stage with 11 fantastic bands that night.

    After playing our song we all felt we'd played the song the best we could have and that we'd done all the preperation possible for the performance so happily proceeded to our seats in the back of the theatre.

    The two winning bands from saturday night would be going through to the Liet Lavlut competition in Lapland - an even bigger competition representing the world's minority languages. To win a band had to either win the most points from the 5 judges on the board who were rpesent in the theatre throughout the night or alternatively win majority votes as placed by online listeners and the live audience in Eden Court.

    The judge's votes were announced first and yanno what....?
    WE WON!!!!!!!
    I know, we didn't believe it either.

    We will now be trying our best to raise funds fopr the trip and it's expenses from now till October which is when we'll be flying over to Lapland to represent Britain in the worldwide competition.

    Lapland AHOY!!

    Thanx to everyone who's supported the band so far and to the organisers and sponsors of Nos-Ur for doing such a great job in putting on such a fantastic event in it's very first year.

    (Ben/Bass)

  • Biog Cymraeg

    Current mood:determined

    Ffurfwyd Yr Annioddefol er mwyn cystadlu mewn Brwydyr Bandiau yn Ysgol y Moelwyn. Er na ennillodd y band y gystadleuaeth, aeth y band ymlaen i chwarae gigs tafarn yn lleol, a daeth y band ifanc yn adnabyddus ym Mlaenau Ffestiniog a'r ardal (ynghyd a'r "canoedd" o fandiau eraill sydd debyg yn cael eu ffurfio ym Mlaenau!). Ar ddiwedd 2006, ymunwyd aelodau newydd â'r band – Gruff ar y guitar rhyddm, a Ben ar y bâs (unwaith iddo ymadael â'r Wyrligigs!) ar ôl i ddau o'r band gwreiddiol adael. Ar ôl practisio a gigio am gwpwl o wythnosau, a gyda chymorth ariannol gan ysgol un o'r aelodau, roedd Yr Annioddefol yn medru rhentu stiwdio Ferlas ym Mhenryndeudraeth am wythnos er mwyn recordio albym cyntaf y band, "i ryfel-es-di"

     

    Dywedodd Dewi Prysor, nofelwr a canwr, ynglyn a'r albym:

     

    "Ma hon yn albym gynta wych, ac o gofio mai oed ysgol oeddan nhw'n recordio, mae'n anhygoel. Cyfuniad o power pop catchi, reggae uplifting a baledi hyfryd iawn - efo digon o glasuron yn eu mysg - efo cynhyrchiad o safon uchel. Mae'na berlau arni - Geiriau Gwir, Stafell Fyw (class) i enwi jesd dwy, a'r cwbwl yn gorffan efo cân hyfryd i hogyn ifanc, poblogaidd, o'r ardal, a laddwyd mewn damwain yn ddiweddar. Band sy'n gallu sgwennu caneuon bachog, tiwns neis, a gneud gwahanol steils, a sgwennu teimladwy am brofiadau amrywiol bywyd. Os na all y Cymry Cymraeg foddran talu £5 am albym fel hon, a cefnogi band mor ifanc, efo cymaint o dalent ac addewid, yna mae'n rhaid i mi gytuno efo Ann Robinson - be ydi'r pwynt i ni fodoli?"

     

    Wedi recordio eu albym cyntaf, cynyddodd poblogrwydd y band. Fe gafodd traciau o'r albym, 'Machlyd' a 'Mae Hi'n Hwyr' lawer o sylw ar Radio Cymru, a mae'r caneuon yn dal i gael eu chwarae yn rheolaidd. Drost y flwyddyn dwythaf, mae'r band wedi bod yn brysur yn gigio tra'n hywyrddo'r albym a gafodd ei rhyddhau yn annibynnol. Ar ôl chwarae'r prif lwyfan yng Ngŵyl Car Gwyllt, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin, y 'Steddfod yn yr Wyddgrug, ac ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol o Frwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru (er iddynt ennill y feirniadaeth!), mae'r Annioddefol yn gobeithio bod yn brysur yn chwarae gigs dros y misoedd nesaf cyn rhyddhau albym newydd yn yr haf

     

    Mae'r band yng nghanol recordio eu hail albym yn stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth.

     

    "'Da ni 'di bwcio lot mwy o amser yn y stiwdio y tro yma" yn ôl gitarydd y band, Gruff Vaughan.

     

    "Cafodd ein albym gyntaf ei recordio mewn 5 diwrnod! Er odda ni'n hapus efo fo, mi fysa'r CD wedi gallu bod cymaint gwell 'sa ni wedi cael mwy o amser (a'r profiad) yn y stiwdio er mwyn recordio albym odda' ni'n berffaith hapus efo. Mae yna lot mwy o feddwl wedi mynd mewn i'r albym newydd, a tyda ni'n ddim am ryddhau dim byd 'da ni ddim yn 100% yn hapus efo"

     

    "'Da ni'n cael cymaint o hwyl pan da ni efo'n gilydd. Pob tro, ma'na un neu ddau o'na ni'n crio chwerthin. Mae'n anodd iawn cael sgwrs gall yn y band yma! 'Da ni'n trio adlewyrchu hyn yn yr albym newydd. Mi fydd yna lwyth o hwyl a mocha'gwmpas, ac ella cwpwl o ganeuon gafaelgar a rhyddm i neud i'r person mwya' diflas yn y byd godi a dawnsio fel ffŵl!"

     

    Mae'r Annioddefol yn fand sy'n gymysgedd lliwgar o pop-rock, reggae ac acwstig. Fel band ifanc Cymraeg, maent yn gobeithio lledaenu eu cerddoriaeth dros Gymru-gyfan ac ar draws y ffin (gyda gigs ym Manceinion a'r Alban yn dod i fyny yn fuan) gan neud yn siŵr fod pawb yn cael cymaint o hwyl ac sy'n bosib ar y ffordd!

  • English Biog

    Current mood:adventurous


    Yr Annioddefol (pronounced ur-ani-o-devol...sort of!), was first put together in order to compete in a school 'Battle of the Bands.' Although they were unsuccessful in their first attempt as a band, a few local gigs later, they were beginning to make a name for themselves. At the end of 2006, the band gained a new lease of life with the arrival of a new guitarist and bass guitarist (subtly nicked from another local band!). Thanks to a grant from one of the band members' school, Yr Annioddefol were able to rent out a studio for a week to record a demo album, named "I ryfel-es-di…" (meaning "You went to war…") taken from the lyrics of a song on the album.

     

    Novelist and singer-songwriter Dewi Prysor had this to say about their self-released demo album:

     

    "This is a great first album, and to think this band was of school age when it was recorded, it's incredible. A combination of catchy power-pop, uplifting reggae and beautiful ballads – with plenty of classics in there! This is a band that can write catchy songs, nice tunes, and have the ability to pull off different styles, with heart-felt lyrics about a range of life's experiences."

     

    Having recorded the demo album, the band's fan-base grew. Tracks off the album recieved a lot of airplay on national Welsh radio, and continue to be played regularly. Over the last year, the band has been gigging consistently while promoting the self-released album. After playing the main stage on Saturday night at Gwyl Car Gwyllt, Sesiwn Fawr Dolgellau, Macs Festival in Camarthen, the Eisteddfod in Mold, and having reached the semi-finals of the Radio Cymru (Wales' national radio station) battle of the bands (as well as doing countless pub gigs)...Yr Annioddefol are hoping to play loads more gigs over the coming months in the build up to the release of their new album in the summer.

     

    The band is currently in the middle of recording the new album at Ferlas Studio in Penrhyndeudraeth.

     

    "We've booked a lot more studio time the second time round" according to guitarist Gruff Vaughan.

     

    "Our demo album was recorded in 5 days! Although we were happy with it, it could have been so much better had we the time and the experience needed to record a decent album. A lot more thought is going into our new songs, and we won't release any songs we're not 100% happy with."

     

    "We have such a great laugh when the band gets together. There's never a moment where one of us isn't having a laughing fit! We want to reflect that in the new album. There'll be a lot of fun and messing around, as well as the odd catchy song and 'get-up-and-dance-you boring git' rhythm."

     Yr Annioddefol are a 5-piece Bombay-mix of pop-rock, reggae and acoustic styles. As a young welsh-language band, they hope to spread their music further than their home turf, having a LOT of fun on the way.

Login

Forgot password?

Need an account? Sign up